Mozilla VPN

VPN ar gyfer Symudol gan Mozilla

Cael VPN ar gyfer Symudol o Mozilla

Cael Mozilla VPN

Yn y byd sy’n canolbwyntio ar ffonau symudol heddiw, rydym yn dibynnu ar ein ffonau symudol a’n dyfeisiau ar gyfer cyfathrebu, adloniant a gwaith. Fodd bynnag, heb VPN, gall eich manylion personol fod yn agored i nifer o risgiau diogelwch a phreifatrwydd.

Pam fod angen VPN arnaf ar gyfer Symudol?

  • Mae ap symudol Mozilla VPN yn fach, felly nid yw'n defnyddio gormod o'ch cof, ac ni fydd yn arafu'ch ffôn nac yn treulio'ch batri.
  • Efallai y bydd eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd (ISP) yn cyfyngu'ch lled band os yw'n gwybod eich bod chi'n gwylio ffilmiau, yn gwrando ar gerddoriaeth, neu'n ffrydio.
  • Gall eich ISP rwystro gwefannau neu wasanaethau nad ydyn nhw'n eu hoffi neu sy'n cystadlu â'u rhai nhw.
  • Gall hacwyr ddwyn eich data personol pan fyddwch yn defnyddio Wi-Fi cyhoeddus, fel mewn caffis neu feysydd awyr.

Mae VPN yn gweithio ar draws eich dyfais, nid eich porwr yn unig, felly ar draws eich apiau symudol hefyd. Ac yn wahanol i VPNs neu wefannau dirprwyol am ddim, a all dalu am eu gweinyddwyr trwy ysbïo arnoch chi a gwerthu'ch manylion, nid yw Mozilla yn cadw cofnodion o ble rydych chi'n mynd a beth rydych chi'n ei wneud.