Windows yw un o'r systemau gweithredu mwyaf poblogaidd yn y byd. O ganlyniad, mae dyfeisiau Windows fel arfer yn cael eu targedu'n fawr gan hacwyr ac yn gallu bod yn arbennig o agored i niwed os nad ydych yn cymryd gofal priodol. Gallwch ddiogelu eich bywyd digidol trwy ddefnyddio VPN i amgryptio eich gweithgaredd ar-lein, yn ogystal â rhai camau eraill megis, cadw'ch meddalwedd yn gyfredol, creu cyfrineiriau unigryw a chryf, a defnyddio arallenwau Relay i gadw'ch e-bost yn ddiogel.
Mae VPN yn creu “twnnel” wedi'i amgryptio ar gyfer eich data rhyngrwyd rhwng eich cyfrifiadur Windows a'r rhyngrwyd, ac yn cuddio'ch lleoliad o'r gwefannau rydych chi'n ymweld â nhw. Mae hyn yn helpu i atal trydydd partïon ac ysbiwyr rhwydwaith rhag dysgu pethau amdanoch nad oes angen iddyn nhw eu gwybod.
Beth yw manteision llwytho Mozilla VPN ar i fy nyfais Windows?
- Gallwch osgoi i'ch gweithgaredd ar-lein rhag cael ei gasglu a'i rannu â thrydydd partïon neu hysbysebwyr.
- Os ydych chi'n ddefnyddiwr trwm o ffrydio fideo neu gerddoriaeth ar-lein, mae'n bosibl y gallwch chi osgoi cael eich gwasanaeth rhyngrwyd wedi'i gyfyngu gan eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd trwy ddefnyddio VPN.
- Gallwch eithrio rhai apiau gyda'r nodwedd twnelu hollt. Mae hyn yn gadael i chi gael rhai apiau'n rhedeg drwy'r VPN tra'n gadael i rai eraill y tu allan i'r twnnel.
- Mae defnyddio dyfais Windows ar rwydwaith Wi-Fi cyhoeddus, heb ei ddiogelu yn gwneud eich manylion traffig rhyngrwyd yn fwy agored i ysbiwyr rhwydwaith, a gall VPN eich helpu i gadw'ch data yn breifat trwy ychwanegu haen gref o ddiogelwch.
Ni fydd ap Mozilla VPN yn defnyddio gormod o gof eich dyfeisiau Windows, yn arafu eich cyfrifiadur nac yn gwastraffu bywyd eich batri.
Mae Mozilla VPN yn cael ei gefnogi ar Windows 10 a Windows 11 a gallwch ei ddefnyddio ar hyd at bum dyfais. I ddechrau, gallwch danysgrifio yn mozilla.org a llwytho'r ap ar i'ch dyfais Windows.