Mae VPN (rhwydwaith preifat rhithwir) yn hanfodol ar gyfer eich preifatrwydd a diogelwch ar-lein pan fyddwch chi'n defnyddio'ch Mac. Gall hacwyr, a darparwyr rhyngrwyd ysbïo ar eich gweithgaredd ar-lein, neu ddwyn eich data personol.
Ond gall dod o hyd i VPN da fod yn anodd. Mae rhai yn araf, yn annibynadwy, a hyd yn oed yn cadw cofnodion o'ch gweithgaredd ar-lein. Dyna pam rydym wedi adeiladu Mozilla VPN, sef VPN cyflym, diogel a dibynadwy gan y bobl sy'n gyfrifol am Firefox.
Gyda Mozilla VPN gallwch:
- Sicrhau preifatrwydd un clic gyda rhyngwyneb syml a hawdd ei ddefnyddio.
- Cysylltu hyd at 5 dyfais wahanol gydag un tanysgrifiad, gan gynnwys Mac, ond hefyd iOS, Windows, Linux, ac Android.
- Defnyddio'ch VPN gymaint ag y dymunwch. Yn wahanol i rai VPNs, sydd ond yn diogelu rhywfaint o ddata y mis, nid ydym yn rhoi terfyn ar eich traffig. Faint bynnag o ddata a ddefnyddiwch, bydd y data i gyd yn cael ei ddiogelu.
- Cael amgryptio lefel dyfais ar gyfer eich traffig. Yn wahanol i ddarparwyr eraill, sydd dim ond yn amgryptio traffig eich porwr, mae Mozilla VPN yn amgryptio'r cyfan, gan ddiogelu eich traffig rhyngrwyd pa bynnag raglen fyddwch yn ei defnyddio.
- Atal darparwyr rhyngrwyd rhag gwthio neu rwystro gwefannau neu wasanaethau nad ydyn nhw'n eu hoffi, neu sy'n cystadlu â'u cynnyrch eu hunain. I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ddarllen am Niwtraliaeth Gwe.
Pam Mozilla VPN?
Mae Mozilla yn sefydliad sy’n gweithio i gadw’r rhyngrwyd ar agor ac yn hygyrch i bawb, ac rydym yn cael ein cefnogi gan sefydliad dim-er-elw. Pan fyddwch yn defnyddio Mozilla VPN, rydych nid yn unig yn diogelu eich hun ar-lein ond hefyd yn cefnogi cenhadaeth Mozilla. Mae Mozilla VPN yn ddiogel, cod agored, ac wedi'i ddatblygu gan arbenigwyr diogelwch a chrewyr Firefox.
Nid yw Mozilla yn cofnodi pa wefannau rydych yn ymweld â nhw nac yn archwilio eich cyfathrebiadau. Mae gennym hefyd warant arian yn ôl 30 diwrnod: dim ffwdan, dim risg.