Mozilla VPN

Mozilla VPN ar Linux i gael rhyngrwyd mwy preifat a diogel

Mozilla VPN ar Linux

Cael Mozilla VPN

Mae Linux yn rhad ac am ddim, yn god agored, ac yn gyfaddasadwy, ond nid yw'n rhydd o faterion diogelwch a phreifatrwydd ar-lein. Yn union fel defnyddwyr systemau gweithredu eraill, mae defnyddwyr Linux yn wynebu sensoriaeth, gwyliadwriaeth a hacio.

Beth yw Mozilla VPN?

Mae Mozilla VPN yn wasanaeth rhwydwaith preifat rhithwir sy'n defnyddio amgryptio cod agored o'r radd flaenaf ac nid yw'n cofnodi, tracio na rhannu unrhyw un o'ch gweithgarwch rhwydwaith. Mae'n caniatáu ichi gysylltu â dros 500 o weinyddion mewn 30+ o wledydd.

Pam dewis Mozilla VPN ar gyfer Linux?

  • Cyflym a dibynadwy: Mae Mozilla VPN yn defnyddio'r protocol WireGuard®, sy'n cynnig gwell perfformiad a sefydlogrwydd na phrotocolau VPN eraill.
  • Dim cofnodi: Nid yw Mozilla VPN yn cadw unrhyw gofnodion o'ch gweithgarwch rhwydwaith; nid ydym yn cofnodi pa wefannau rydych chi'n ymweld â nhw nac yn archwilio'ch traffig.
  • Nodweddion diogelwch ychwanegol: Rydym yn defnyddio rhwystro DNS i rwystro hysbysebion, tracwyr a meddalwedd faleisus. Er taw dim ond porwr all atal gwefannau rhag rhoi malwar i chi a'ch tracio.
  • Amgryptio lefel dyfais: Yn wahanol i VPNs sydd ond yn amgryptio traffig eich porwr, mae Mozilla VPN yn amgryptio holl draffig eich dyfais, gan gynnwys eich holl raglenni a gemau.
  • Llwybrau aml-naid: Er mwyn cael mwy o ddiogelwch, gall Mozilla VPN amgryptio'ch traffig a'i gyfeirio trwy ddau leoliad yn lle un, gan ei gwneud hi'n anoddach i unrhyw un dracio eich gweithgaredd ar-lein .
  • Rhyngwyneb syml a greddfol: Cysylltwch â gweinydd gydag un clic. Gallwch hefyd gyfaddasu eich gosodiadau a dewisiadau yn ôl eich anghenion.
  • Mae'n helpu i adfer niwtraliaeth gwe: Mae Mozilla VPN yn eich helpu i adennill rheolaeth ar eich gweithgareddau ar-lein drwy atal darparwyr rhyngrwyd rhag gyfyngu ar eich lled band, neu rhag rhwystro gwefannau neu wasanaethau nad ydyn nhw'n eu hoffi, neu sy'n cystadlu â'u cynnyrch nhw.
  • Rhyngwyneb Graffigol: Mae gan Mozilla VPN raglen rhyngwyneb defnyddiwr graffigol, tra bod rhai darparwyr VPN yn darparu fersiwn llinell orchymyn.

Trwy ddefnyddio Mozilla VPN, gallwch adennill rheolaeth dros eich gweithgareddau ar-lein a diogelu eich preifatrwydd a data. Llwythwch Mozilla VPN heddiw a mwynhewch warant arian yn ôl 30 diwrnod heb unrhyw gofnodi, ffwdan, na risg.

Sut i osod Mozilla VPN ar Linux

Os ydych yn defnyddio un o'r fersiynnau Ubuntu sy'n cael eu cefnogi, mae dwy ffordd i osod pecynnau swyddogol mozillavpn sy'n cael eu gwesteio ar Launchpad:

  1. Modd llinell orchymyn Ubuntu: Am gyfarwyddiadau manwl ar sut i osod Mozilla VPN gan ddefnyddio offer modd llinell orchymyn, edrychwch ar Sut i osod Mozilla VPN ar gyfrifiadur Linux.
  2. Rhyngwyneb defnyddiwr graffigol Ubuntu: Ewch at yr erthygl hon a dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr adran Ychwanegu archifau pecynnau personol.

Hefyd, ar gyfer dosbarthiadau Linux heb eu cefnogi, gallwch gymryd a chrynhoi'r cod ffynhonnell o storfa swyddogol GitHub.