Cwestiynau Cyffredin Polisi Preifatrwydd Mozilla

Rydym o Blaid Pobl Nid Elw.

Mae'n gallu bod yn anodd i bobl wybod beth i'w ddisgwyl o unrhyw feddalwedd neu wasanaeth maen nhw’n ei ddefnyddio heddiw. Mae'r dechnoleg sy'n gyrru ein bywydau'n gymhleth a does gan bobl ddim yr amser i fynd yn ddwfn i'r manylion. Mae hyn dal yn wir am Firefox, mae gan bobl lot o syniadau gwahanol am beth sy'n digwydd o dan fonet eu porwr.

Ym Mozilla. rydym yn parchu ac yn diogelu eich manylion personol:

  • Rydym yn dilyn set o Egwyddorion Preifatrwydd Data sy'n llywio ein hymagwedd at breifatrwydd yn y porwyr bwrdd gwaith a symudol Firefox.
  • Rydym yn ymdrechu dim ond i gasglu'r data sydd ei angen arnom i wneud y cynnyrch gorau.
  • Rydym yn gweithio i roi rheolaeth i bobl dros eu data a’u profiadau ar-lein.
  • Rydym yn cadw at yr egwyddor “dim syrpreis”, sy’n golygu ein bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod dealltwriaeth pobl o Firefox yn cyd-fynd â realiti.

Dylai'r cwestiynau a'r atebion canlynol eich cynorthwyo i deall beth i'w ddisgwyl gan Mozilla a Firefox:

Rwy'n defnyddio Firefox ar gyfer bron pob peth ar y We. Rhaid eich bod chi ym Mozilla'n gwybod y cyfan amdana i?

Nid yw Mozilla yn gwybod cymaint ag y byddech yn ei ddisgwyl am sut mae pobl yn pori'r we. Firefox, y porwr gwe sy'n rhedeg ar eich dyfais neu gyfrifiadur, yw eich porth i'r rhyngrwyd. Bydd eich porwr yn rheoli llawer o wybodaeth am y gwefannau y byddwch yn ymweld â nhw, ond mae'r wybodaeth honno'n aros ar eich dyfais yn gyffredinol.

Mae'n ymddangos fel bod pob cwmni ar y we yn prynu a gwerthu fy nata. Mae'n siŵr eich bod chi'r un fath.

Nid yw Mozilla yn gwerthu data amdanoch chi (yn y ffordd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl am “werthu data”), ac nid ydym yn prynu data amdanoch chi. Gan ein bod yn ymdrechu i sicrhau tryloywder, a bod y diffiniad CYFREITHIOL o “werthu data” yn eang iawn mewn rhai mannau, rydym wedi gorfod camu yn ôl o wneud y datganiadau diffiniol rydych chi'n eu hadnabod ac yn eu caru. Rydym yn dal i wneud llawer o waith i sicrhau bod y data rydym yn ei rannu gyda'n partneriaid (y mae angen i ni ei wneud i wneud Firefox yn fasnachol hyfyw) yn cael ei dynnu allan o unrhyw wybodaeth adnabod, neu ei rannu yn y yn gyfanredol, neu'n cael ei roi trwy ein technolegau diogelu preifatrwydd (fel OHTTP).

Ond, sut fyddwch chi'n gwneud eich arian?

Nid Mozilla yw eich sefydliad arferol. Wedi'i sefydlu fel project cod agored cymunedol ym 1998, mae Mozilla yn sefydliad sy'n cael ei yrru gan genhadaeth sy'n gweithio tuag at rhyngrwyd mwy iach. Daw mwyafrif refeniw Mozilla Corporation o freindaliadau a enillwyd trwy bartneriaethau chwilio porwr gwe Firefox a bargeinion dosbarthu ledled y byd. Gallwch ddysgu mwy am sut rydym yn gwneud arian yn ein adroddiad ariannol blynyddol.

Iawn, dyna'r cwestiynau hawdd. Pa ddata ydych chi'n ei gaglu?

Mae Mozilla yn casglu set gyfyngedig o ddata ragosodedig o Firefox sy'n ein helpu i ddeall sut mae pobl yn defnyddio'r porwr. Gallwch ddarllen mwy am hynny yn ein hysbysiad preifatrwydd a darllen y dogfennaeth lawn ar gyfer y casgliad data hwnnw. Rydym hefyd yn gwneud ein dogfennaeth yn gyhoeddus fel y gall unrhyw un wirio’r hyn a ddywedwn sy’n wir, dweud wrthym a oes angen i ni wella, a bod yn hyderus nad ydym yn cuddio unrhyw beth.

Ydych chi'n casglu mwy a ddata yn y fersiynau cyn ryddhau o Firefox?Ydych chi'n casglu mwy o ddata yn y fersiynau cyn rhyddhau o Firefox?

O fath. Yn ogystal â'r data sy'n cael ei ddisgrifio uchod, rydym yn derbyn adroddiadau chwalu a gwall yn ragosodedig gan fersiynau cyn rhyddhau o Firefox.

Mae'n bosibl y byddwn hefyd yn casglu data ychwanegol yn y fersiynau cynryddhau ar gyfer un o'n astudiaethau. Er enghraifft, mae rhai astudiaethau yn gofyn am yr hyn a alwn yn “ddata pori”, a all gynnwys URLs a gwybodaeth arall am wefannau penodol. Mae hyn yn ein helpu i ateb cwestiynau penodol i wella Firefox, megis, sut i integreiddio gwefannau poblogaidd yn well mewn lleoliadau penodol.

Mae fersiynau cyn rhyddhau Firefox Mozilla yn blatfformau datblygu, yn cael eu diweddaru'n aml gyda nodweddion arbrofol. Rydym yn casglu mwy o ddata yn y cyn rhyddhau nag ar ôl ryddhau er mwyn deall sut mae'r nodweddion arbrofol hyn yn gweithio. Gallwch hepgor y casglu data hwn yn y dewisiadau.

Pam ydych chi'n casglu unrhyw ddata o gwbl?

Os nad ydym yn gwybod sut mae'r porwr yn perfformio neu pa nodweddion y mae pobl yn eu defnyddio, allwn ni ddim ei wella a darparu'r cynnyrch gwych rydych chi ei eisiau. Rydym wedi buddsoddi mewn adeiladu offer casglu a dadansoddi data sy'n ein galluogi i wneud penderfyniadau call am ein cynnyrch wrth barchu preifatrwydd pobl. Gallwch ddarllen mwy am rai o'r technolegau diogelu preifatrwydd a ddefnyddiwn, megis OHTTP.

Mae casglu data'n dal yn fy mhoeni i. Ga i ei ddiffodd?

Cewch. Mae rheolaeth defnyddwyr yn un o'n hegwyddorion preifatrwydd data. Rydyn ni'n rhoi hynny ar waith yn Firefox ar ein tudalen gosodiadau preifatrwydd, sy'n gweithredu fel siop un stop i unrhyw un sydd am gymryd rheolaeth o'u preifatrwydd yn Firefox. Gallwch diffodd casglu data yno.

Peth am ddata fy nghyfrif?

Rydym yn gredwyr mawr mewn lleihau data a pheidio â gofyn am bethau sydd ddim mo'u hangen arnom ni.

Nid oes angen cyfrif arnoch i ddefnyddio Firefox. Mae angen Cyfrifon i gydweddu data ar draws dyfeisiau, ond dim ond am gyfeiriad e-bost a'ch oedran y byddwn yn gofyn i chi (dim ond i wneud yn siŵr nad ydych chi'n blentyn).

Rydych yn defnyddio hysbysebu digidol am rhan o'ch cymysgedd o farchnata. Ydych chi'n prynu data pobl er mwyn targedu'n well eich hysbysebion ar-lein?

Na, tydyn ni ddim yn prynu data pobl ar gyfer targedu hysbysebion.

Rydyn yn gofyn i'n partneriaid hysbysebu i ddefnyddio data parti cyntaf yn unig y mae gwefannau a chyhoeddwyr yn gwybod am bob defnyddwyr, fel y porwr rydych yn ei ddefnyddio a'r ddyfais rydych arni.

Wel, mae'n ymddangos eich bod yn fy nghefnogi gyda'r pethau preifatrwydd yma.

Ydy, wir.

Canfod rhagor am sut mae Mozilla'n diogelu'r rhyngrwyd.