Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich diogelu, bob tro rydych yn mynd ar-lein
Diolch am ddefnyddio'r porwr Firefox diweddaraf. Pan ddewiswch Firefox, rydych yn cefnogi gwe well i chi a phawb arall. Nawr, cymrwch y cam nesaf i ddiogelu eich hun.
Dewiswch breifatrwydd awtomatig
Mae cwmnîau'n dal i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gipio'ch data personol. Firefox yw'r porwr sydd â chenhadaeth i ddod o hyd i ffyrdd newydd i'ch diogelu.
Dewiswch ryddid ar bob dyfais
Mae Firefox yn gyflym ac yn ddiogel ar Windows, iOS, Android, Linux… ac ar eu traws i gyd. Rydych yn haeddu dewisiadau mewn porwyr a dyfeisiau, yn lle bod penderfyniadau'n cael eu gwneud drosoch chi.
Dewiswch annibyniaeth gorfforaethol
Firefox yw'r unig borwr annibynnol mawr. Mae Chrome, Edge a Brave i gyd wedi'u hadeiladu ar god Google, sy'n golygu rhoi mwy fyth o reolaeth o'r rhyngrwyd i Google.