Tabiau porwr wedi'u pinio

Mae pinio tab yn Firefox yn eich galluogi i gadw'ch hoff wefannau ar agor bob amser a chlicio i ffwrdd. Byddan nhw'n agor yn awtomatig pan fyddwch yn agor Firefox. Rydym wedi eu cael yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer cadw pethau fel e-byst a gwefannau calendr yn gyson wrth law.

Maen nhw'n fach, ac allwch ddim eu cau'n ddamweiniol oherwydd nad oes ganddyn nhw fotwm cau. Yn lle hynny, mae'n rhaid i chi eu dadbinio.

Gallwch weld pan fydd eich tabiau pinio yn cael eu diweddaru, er enghraifft, os byddwch yn cael e-bost newydd neu neges uniongyrchol.

Os byddwch yn clicio ar ddolen o'r tu mewn i'ch tab wedi'i binio, bydd Firefox yn agor y ddolen yn awtomatig mewn tab newydd ar wahân fel bod eich tab wedi'i binio yn parhau am byth (neu nes i chi ei ddad-binio).