Gwnewch ragor gyda fideos popio allan

Oes gennych chi bethau i'w gwneud a phethau i'w gwylio? Gwnewch y ddau gan ddefnyddio Llun-mewn-Llun yn Firefox. Mae'n caniatáu i chi bopio fideo allan o'i dudalen we a'i binio i'ch sgrin fel y gallwch barhau i wylio tra'ch bod chi ar dudalennau, tabiau ac apiau eraill.

Dyma sut mae'n gweithio:

  1. Chwaraewch unrhyw fideo yn eich porwr Firefox, fel hwn.
  2. Cliciwch y botwm Llun-mewn-Llun sy'n ymddangos ar y fideo, a bydd yn popio allan.
  3. Ewch i dabiau eraill neu hyd yn oed y tu allan i Firefox. Mae'r fideo yn aros yn ei le!
  4. Ailadroddwch gamau 1-3 i gael cymaint o fideos llun-mewn-llun ag yr hoffech chi.

3 ffordd ychwanegol i ddefnyddio Llun-mewn-Llun

Gwylio darlith neu gyfarfod wrth gymryd nodiadau

Cadw fideo tiwtorial ar agor gyda rysáit wrth goginio

Diddannu cathod, cŵn a phlant wrth i chi weithio