Dewiswch liwiau yn Firefox gyda'r teclyn dewisydd lliw
Mae yna lawer o resymau y gallech chi fod eisiau gwybod union god lliw hecs lliw penodol ar dudalen we - efallai eich bod chi'n adeiladu tudalennau gwe neu'n ddylunydd graffig. Mae'r teclyn dewis lliwiau, yn y fersiwn bwrdd gwaith o Firefox, yn gadael i chi ddod o hyd i godau lliw hecs penodol dim ond trwy hofran dros unrhyw liw a welwch ar dudalen we. Bydd clic yn copïo'r gwerth lliw hwnnw i'ch clipfwrdd.

Gallwch ddod o hyd i'r dewisydd lliwiau o dan “Offer Porwr” yn y ddewislen Offer neu o dan “Rhagor o Offer” yn newislen bar offer Firefox (ar ben draw bar offer Firefox).