Cyfaddaswch eich porwr Firefox
Mae themâu Firefox yn gadael i chi newid golwg eich porwr. Maen nhw'n gosod y cynllun lliwiau ar gyfer dewislenni porwr a thudalennau system Firefox, a gallan nhw hefyd ychwanegu delwedd gefndir i'ch bar offer Firefox.
Daw Firefox â thema system rhagosodedig ac mae wedi'i lwytho'n barod ag amrywiadau golau, tywyll a lliwgar.

Gallwch ddod o hyd i ragor o themâu personol rhad ac am ddim yn addons.mozilla.org. Gallwch edrych drwy'r rhai â'r sgôr uchaf, y tueddiadau a'r rhai sy'n cael eu hargymell. Neu edrychwch am themâu yn ôl categori, gan gynnwys cerddoriaeth, y tymor, chwaraeon, a natur Gallwch addasu'ch profiad yn ôl eich chwaeth. Creaduriaid ciwt, robotiaid drwg, tirweddau hardd — mae miloedd o ddewisiadau i'w gwneud Firefox eich hun yn gartrefol.
