Os ydych yn chwilio am borwr cyflym sy'n diogelu eich preifatrwydd, mae'r Cwestiynau Cyffredin yma i ateb y cwestiynau mwyaf perthnasol am Firefox.
Y porwr Firefox Browser yw'r unig borwr mawr sy'n cael ei gefnogi gan gorff nid-er-elw sydd ddim yn gwerthu eich data personol i hysbysebwyr tra'n eich helpu i diogelu eich manylion personol. Dysgu rhagor am y Porwyr Firefox Browser a chynnyrch eraill.
Gallwch chi lwytho'r porwr bwrdd gwaith Firefox i lawr yn hawdd yma. Mae Firefox yn gweithio ar Windows, Mac, dyfeisiau Linux ac mae hefyd ar gael ar gyfer Android a iOS . Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n llwytho ein porwr i lawr o un o'n tudalennau Mozilla/Firefox dibynadwy.
Ydy! Mae Firefox Browser ar gael yn rhad ac am ddim. Yn gwbwl rhad ac am ddim mewn gwirionedd. Dim costau cudd na dim. Fyddwch chi ddim yn talu i'w ddefnyddio, a fyddwn ni ddim yn gwerthu eich data personol.
Cwestiynau cysylltiedig: a yw Firefox Browser yn rhad ac am ddim, oes rhaid i fi dalu am FirefoxNa, dydyn ni ddim yn credu bod Chrome yn well na Firefox, a dyma pam: pan fydd pobl yn gofyn pa borwr sy'n well, maen nhw wir yn gofyn pa borwr sy'n gyflymach a mwy diogel. Mae Firefox yn cael ei ddiweddaru'n fisol i sicrhau bod gennych y porwr cyflymaf sy'n parchu eich preifatrwydd yn awtomatig.
Cwestiynau cysylltiedig: a yw Firefox yn well na Chrome, a yw Firefox yn well na Google, a yw Firefox yn fwy diogel na Chrome, a yw Firefox yn fwy preifat na ChromeDiogelu eich preifatrwydd yw ein prif flaenoriaeth, ac rydym yn sicrhau bod gosod Firefox ar eich dyfeisiau yn hollol ddiogel - ond gwnewch yn siŵr eich bod yn ei lwytho i lawr o wefan dibynadwy Mozilla/Firefox, fel ein tudalen llwytho i lawr.
Nid yn unig y mae Firefox yn ddiogel i'w ddefnyddio, mae hefyd yn helpu i gadw'ch data a'ch manylion breifat yn ddiogel. Mae Firefox Browser yn rhwystro tracwyr trydydd parti hysbys, tracwyr cyfryngau cymdeithasol, cryptogloddwyr a bysbrintwyr yn awtomatig rhag casglu eich data. Dysgu rhagor am breifatrwydd ein cynnyrch.
Cwestiynau cysylltiedig: a yw Firefox yn dda am breifatrwydd, a yw Firefox yn ddiogel, a yw Firefox yn well am breifatrwyddNa. Byth wedi gwneud a byth am wneud. Ac rydym yn eich diogelu rhag llawer o'r hysbysebwyr sy'n gwneud hynny. Mae cynnyrch Firefox wedi'u cynllunio i ddiogelu eich preifatrwydd. Dyna'n haddewid.
Nid yw Firefox yn araf… nawr. Yn 2017, gwnaethom ailadeiladu ein peiriant porwr yn llwyr (ei enw yw Quantum), er mwyn sicrhau y gallai Firefox gystadlu â phorwyr mawr eraill. Ac, mae ein rhwystrydd tracwyr yn helpu tudalennau i lwytho hyd yn oed yn gyflymach. Felly mae Firefox yn chwim o gyflym heb aberthu dim o'ch preifatrwydd.
Nid yw Firefox wedi'i seilio ar Chromium (y prosiect porwr cod agored sy'n sail i Google Chrome). Mewn gwirionedd, ni yw un o'r porwyr mawr olaf nad yw wedi ei adeiladu ar sail Chromium. Mae Firefox yn rhedeg ein peiriant porwr Quantum a adeiladwyd yn benodol ar gyfer Firefox, felly gallwn sicrhau bod eich data yn cael ei drin gyda pharch a'i gadw'n breifat.
Google yw'r peiriant chwilio rhagosodedig Firefox, sy'n golygu y gallwch chi chwilio'r we yn syth o'r bar cyfeiriad. Dysgu rhagor am ddewisiadau peiriannau chwilio a newid y rhagosodiad.
Nid oes gan Firefox VPN (rhwydwaith preifat rhithwir) fel rhan ohono, ond mae Mozilla yn creu cynnyrch o'r enw Mozilla VPN y gallwch ei ddefnyddio yn ogystal â'r Firefox Browser preifat sy'n gallu diogeu eich cysylltiad ar WiFi, yn ogystal â'ch cyfeiriad IP.
Cwestiynau cysylltiedig: a yw Firefox yn cuddio'ch cyfeiriad IPMae Firefox yn cael ei wneud gan Mozilla Corporation is-gwmni sy'n eiddo llwyr i'r Mozilla Foundation, ac mae'n cael ei arwain gan egwyddorion Maniffesto Mozilla. Dysgwch fwy am wneuthurwr Firefox yma.
Cwestiynau cysylltiedig: pwy sydd bia Firefox, ac sy'n berchen ar Firefox Browser, a yw Firefox yn eiddo i Google, a yw Mozilla Firefox yn eiddo i Google