Beth yw porwr gwe?

Mae porwr gwe yn mynd â chi unrhyw le ar y rhyngrwyd, gan adael i chi weld testun, delweddau a fideo o unrhyw le yn y byd.

Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Mae'r we yn offeryn enfawr a phwerus. Dros y degawdau diwethaf mae'r rhyngrwyd wedi newid y ffordd rydym yn gweithio, y ffordd rydym yn chwarae a'r ffordd rydym yn rhyngweithio â'n gilydd. Yn dibynnu ar sut mae'n cael ei ddefnyddio, mae'n pontio cenhedloedd, yn gyrru masnach, yn meithrin cydberthnasau, yn gyrru injan arloesi y dyfodol ac yn gyfrifol am fwy o femes nag y gwyddom beth i'w wneud â nhw.

Mae'n bwysig bod pawb yn cael mynediad i'r we, ond mae hefyd yn hanfodol ein bod i gyd yn deall yr offer rydym yn eu defnyddio i gael mynediad iddo. Rydym yn defnyddio porwyr gwe fel Mozilla Firefox, Google Chrome, Microsoft Edge ac Apple Safari bob dydd, ond ydyn ni'n deall beth ydyn nhw a sut maen nhw'n gweithio? Mewn cyfnod byr o amser rydym wedi ein synnu gan y gallu i anfon e-bost at rywun o gwmpas y byd, at newid yn y ffordd rydym yn meddwl am wybodaeth. Nid yw'n gwestiwn o faint yr ydych chi'n ei wybod mwyach, ond dim ond cwestiwn o ba borwr neu ap all fynd â chi i'r wybodaeth honno gyflymaf.

Sut mae porwr gwe yn gweithio?

Mae porwr gwe yn mynd â chi i unrhyw le ar y rhyngrwyd. Mae'n estyn gwybodaeth o rannau eraill o'r we a'i arddangos ar eich bwrdd gwaith neu'ch dyfais symudol. Mae'r wybodaeth yn cael ei drosglwyddo gan ddefnyddio'r Protocol Trosglwyddo Hypertestun (Hypertext Transfer Protocol), sy'n diffinio sut mae testun, delweddau a fideo yn cael eu trosglwyddo ar y we. Mae angen i'r wybodaeth hon gael ei rhannu a'i harddangos mewn fformat cyson fel bod pobl sy'n defnyddio unrhyw borwr, unrhyw le yn y byd yn gallu gweld y wybodaeth.

Yn anffodus, nid yw pob gwneuthurwr porwr yn dewis dehongli'r fformat yn yr un modd. I ddefnyddwyr, mae hyn yn golygu y gall gwefan edrych a gweithredu'n wahanol. Mae creu cysondeb rhwng porwyr, fel y gall unrhyw ddefnyddiwr fwynhau'r rhyngrwyd, waeth beth fo'r porwr y maent yn ei ddewis, yn cael ei alw'n safonau gwe.

Pan fydd y porwr gwe yn nôl data o weinydd sydd wedi'i gysylltu â'r rhyngrwyd, mae'n defnyddio darn o feddalwedd o'r enw peiriant rendro i gyfieithu'r data hwnnw yn destun a delweddau. Ysgrifennwyd y data hwn yn Iaith Markup Hypertestun (HTML) ac mae porwyr gwe yn darllen y cod hwn i greu'r hyn rydym yn ei weld, ei glywed a'i brofi ar y rhyngrwyd.

Mae >hyperddolennau yn galluogi defnyddwyr i ddilyn llwybr i dudalennau neu wefannau eraill ar y we. Mae gan bob tudalen we, delwedd a fideo ei Lleolwr Adnoddau Unffurf (Uniform Resource Locator) (URL), sydd hefyd yn cael ei adnabod fel cyfeiriad gwe. Pan fydd porwr yn ymweld â gweinydd am ddata, mae'r cyfeiriad gwe yn dweud wrth y porwr ble i edrych am bob eitem sy'n cael ei ddisgrifio yn yr html, sydd wedyn yn dweud wrth y porwr lle mae'n mynd ar y dudalen we.

Cwcis (nid y math blasus)

Mae gwefannau'n cadw gwybodaeth amdanoch chi mewn ffeiliau o'r enw cwcis. Maen nhw'n cael eu cadw ar eich cyfrifiadur tan y tro nesaf y byddwch yn ymweld â'r wefan honno. Ar ôl ichi ddychwelyd, bydd cod y wefan yn darllen y ffeil honno i weld mai chi sydd yna. Er enghraifft, pan fyddwch chi'n mynd i wefan ac mae'r dudalen yn cofio'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair - mae hynny'n bosibl trwy gwci.

Mae yna hefyd gwcis sy'n cofio gwybodaeth fwy manwl amdanoch chi. Efallai eich diddordebau, eich patrymau pori ar y we, ac ati. Mae hyn yn golygu y gall gwefan roi mwy o gynnwys wedi'i dargedu i chi - yn aml ar ffurf hysbysebion. Mae yna fathau o gwcis, o'r enw cwcis trydydd parti, sy'n dod o wefannau nad ydych chi hyd yn oed yn ymweld â nhw ar y pryd a gallan nhw eich olrhain o wefan i wefan i gasglu gwybodaeth amdanoch chi, sydd weithiau'n cael ei gwerthu i gwmnïau eraill. Weithiau gallwch rwystro'r mathau hyn o gwcis, er nad yw pob porwr yn caniatáu i chi wneud hynny.

Deall preifatrwydd

Mae gan bron pob porwr mawr osodiad pori preifat. Mae'r rhain yn bodoli i guddio hanes pori gan ddefnyddwyr eraill ar yr un cyfrifiadur. Mae llawer o bobl yn credu y bydd modd pori preifat neu incognito yn cuddio eu hunaniaeth a'u hanes pori gan ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd, llywodraethau a hysbysebwyr. Dydyn nhw ddim. Mae'r gosodiadau hyn yn clirio hanes eich system yn unig, sy'n ddefnyddiol os ydych chi'n delio â gwybodaeth bersonol sensitif ar gyfrifiadur sy'n cael ei rannu neu ar gyfrifiadur cyhoeddus. Mae Firefox yn mynd y tu hwnt i hynny.

Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Mae Firefox yn eich helpu i fod yn fwy preifat ar-lein trwy adael i chi rwystro tracwyr rhag eich dilyn o amgylch y we.

Gwneud i'ch porwr gwe weithio i chi

Mae'r rhan fwyaf o brif borwyr gwe yn gadael i ddefnyddwyr addasu eu profiad trwy estyniadau neu ychwanegiadau. Mae estyniadau yn ddarnau o feddalwedd y gallwch eu hychwanegu at eich porwr i'w addasu neu ychwanegu ymarferoldeb. Gall estyniadau wneud pob math o bethau hwyliog ac ymarferol fel galluogi nodweddion newydd, geiriaduron ieithoedd tramor, neu ymddangosiadau gweledol a themâu.

Mae pob gwneuthurwr porwr yn datblygu eu cynnyrch i ddangos delweddau a fideo mor gyflym a llyfn â phosibl gan ei gwneud yn hawdd i chi wneud y gorau o'r we. Maen nhw i gyd yn gweithio'n galed i sicrhau bod gan ddefnyddwyr borwr sy'n gyflym, yn bwerus ac yn hawdd ei ddefnyddio. Ble maent yn wahanol yw pam. Mae'n bwysig dewis y porwr cywir i chi. Mae Mozilla yn adeiladu Firefox i sicrhau bod gan ddefnyddwyr reolaeth dros eu bywydau ar-lein ac i sicrhau bod y rhyngrwyd yn adnodd cyhoeddus, byd-eang, sy'n agored i bawb.