Firefox o'i gymharu â Microsoft Edge

Mae Firefox yn gwneud diogelu preifatrwydd yn hawdd ac yn gyfleus, fel nad oes rhaid i chi boeni amdano.

Rydym yn rhwystro tracwyr fel rhagosodiad. Nid yw Edge yn gwneud hynny.

Rydym hefyd yn cynnig nodweddion hawdd eu defnyddio fel:

Ac rydyn ni'n ei gwneud hi'n hawdd i chi ddewis pa beiriant chwilio rydych chi'n ei ddefnyddio pryd bynnag y byddwch chi'n chwilio. Mae Edge yn eich gorfodi i balu trwy'ch gosodiadau i ddefnyddio peiriant chwilio heblaw Bing.

Mae'n rhaid i Microsoft wneud eu cyfranddalwyr yn hapus, ond gallwn ni ganolbwyntio ar eich gwneud chi'n hapus a rhoi eich preifatrwydd yn gyntaf.

Mae'n hawdd newid

Mae newid i Firefox yn hawdd ac yn gyflym — mewnforio eich nodau tudalen, eich cyfrineiriau, eich hanes a'ch dewisiadau Edge gydag un clic a bod yn barod i ddefnyddio Firefox yn syth . Dyma sut i ddefnyddio'r botwm Mewnforio i newid.